Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

10 Ionawr 2021

SL(6)109 – Rheoliadau Traffordd yr M48 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 2 (Cylchfan Newhouse), Cas-gwent) (Terfyn Cyflymder 40 mya) 2021

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno, ar sail diogelwch, ostyngiad o'r terfyn cyflymder uchaf i 40mya ar ddarnau o ffyrdd ymadael Traffordd yr M48 tua'r dwyrain a thua'r gorllewin yng Nghyffordd 2 (Cylchfan Newhouse) yn Sir Fynwy.

 

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

Fe’u gwnaed ar: 10 Rhagfyr 2021

Fe’u gosodwyd ar: 13 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym ar: 12 Ionawr 2022

 

 

SL(6)111 – Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Disgyblion Ysgol Anabl) (Cymru) 2021

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Pwrpas yr offeryn statudol hwn yw gwneud rheoliadau ynghylch y dyletswyddau ar awdurdodau lleol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion. Mae’r rheoliadau’n nodi’r trefniadau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu gwneud i ddarparu cyngor a gwybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion i ddisgyblion anabl. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch penodi personau annibynnol i hwyluso datrys anghydfodau ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion Yn olaf, mae’r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynghylch penodi personau i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer disgyblion ysgol anabl.

 

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cydraddoldeb 2010

Fe’u gwnaed ar: 13 Rhagfyr 2021

Fe’u gosodwyd ar: 14 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym ar: 5 Ionawr 2022

SL(6)113 – Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2021

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2021 (“y Rheoliadau Diwygio”) yn diwygio Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”).

Mae Rheoliadau 2014 yn nodi'r broses y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ei dilyn er mwyn ffedereiddio, dadffedereiddio neu ddiddymu ffederasiwn; yn nodi cyfansoddiad ac aelodaeth corff llywodraethu ffederal; yn gosod cap ar nifer yr ysgolion a gaiff ffedereiddio; ac yn gosod fframwaith llywodraethu y gall cyrff llywodraethu ffederal weithredu a chynnal eu busnes o’i fewn.

Mae Rheoliad 15(3) o Reoliadau 2014 yn darparu meini prawf ar gyfer anghymwyso athro-lywodraethwyr:

(a) os etholwyd y person hwnnw yn flaenorol yn athro-lywodraethwr ar yr un corff llywodraethu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf; neu

(b) os cyflogir y person hwnnw i weithio yn yr un ysgol ffederal ag unrhyw berson a etholwyd yn athro-lywodraethwr ar y corff llywodraethu hwnnw yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae Rheoliad 16 yn darparu’r un meini prawf ar gyfer staff-lywodraethwyr.

Mae’r meini prawf hyn yn creu anghysondeb i gyrff llywodraethu ffederal dwy ysgol ac yn ei gwneud yn ddiangen o anodd cydymffurfio â’r gofynion cyfansoddiadol a chael cynrychiolaeth iawn o bob ysgol ar y corff llywodraethu.

Mae'r Rheoliadau Diwygio yn darparu na fydd is-baragraffau (a) a (b) uchod yn gymwys i ffederasiynau sy’n cynnwys dwy ysgol, a hynny er mwyn caniatáu i berson gael ei ethol yn athro-lywodraethwr neu’n staff-lywodraethwr er ei fod yn gweithio yn yr un ysgol ffederal ag athro-lywodraethwr neu staff-lywodraethwr blaenorol a wasanaethodd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Rhiant-Ddeddf: Deddf Addysg 2002

Fe’u gwnaed ar: 12 Rhagfyr 2021

Fe’u gosodwyd ar: 15 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym ar: 4 Chwefror 2022